Wicipedia:Eginyn

Article on other languages:

del.icio.us del.icio.us
Digg Digg
Furl Furl
Reddit Reddit
Rojo Rojo
Add to OnlyWire

Erthygl fer iawn yw eginyn, sydd fel arfer yn cynnwys un paragraff yn unig. Mae awdur eginyn yn ei greu er mwyn ysgogi pobl sydd â diddordeb yn y pwnc, neu sydd â llawer o wybodaeth amdano, i ychwanegu at yr erthygl.

Os byddwch chi'n creu eginyn, cofiwch ychwanegu {{eginyn}} at ddiwedd y darn, ac fe welwch y testun:

   Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

ar y diwedd, sy'n dangos i'r byd mai eginyn yw'r erthygl.

I weld pa erthyglau sydd angen eu hehangu, gwyliwch y rhestr hon.

Wrth i'r Wicipedia dyfu rydym yn creu categorïau egin mwy penodol; mae gennym ni gategori ar gyfer eginau am hanes Cymru er enghraifft. I ychwanegu erthygl at y categori eginyn hwnnw, rhowch y nodyn {{eginyn hanes Cymru}} ar ddiwedd yr erthygl. Mae'r nodiadau eginyn hyn ar gael yn barod am nifer o wledydd, e.e. {{eginyn Montenegro}} a sawl pwnc a maes, e.e. {{eginyn athroniaeth}} ac {{eginyn cerddoriaeth}}.

Cewch weld rhestr lawn o'r nodiadau egin ychwanegol hyn yma.

Ond peidiwch â phoeni'n ormodol os nad ydych yn siwr pa nodyn i'w ddefnyddio. Bydd rhywun un siwr o sylwi ar yr erthygl newydd a'i roi yn y categori egin iawn. Y peth pwysig ydy creu yr erthygl yn y lle cyntaf:

Ewch ati felly!

This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.